Galw am Safleoedd 2026

Yn dod i ben ar 11 Mai 2026 (82 diwrnod ar ôl)

Galw am Safleoedd 2026

Cliciwch ar y linc isod i gyflwyno eich Safle Posib i gael eich ystyried fel rhan o'r broses o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Eryri newydd.

Rhaid cwblhau ffurflen cynnig Safle Posib ar wahân ar gyfer pob safle sy’n cael ei gyflwyno. 

Am Nodyn Canllaw, Proses a Methodoleg, Map Cyfyngiadau a dogfennau cefnogol eraill, gweler tudalen we Galw am Safleoedd Posib yr Awdurdod.

Bydd angen cyflwyno safleoedd erbyn 11 o Fai 2026.

Cyflwyno Cyflwyno

Sut fyddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth 

Ar 25 Mai 2018 daeth Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) i rym, gan osod cyfyngiadau ar sut all sefydliadau gadw a defnyddio data personol a diffinio hawliau mewn perthynas â’r data hwnnw. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei datgelu i ni ei phrosesu yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd. Gallwch weld Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor yma: https://eryri.llyw.cymru/datganiad-preifatrwydd/

Bydd yr holl Safleoedd Posib ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio ar ffurf cofrestr Safle Posib ac felly ni ellir eu trin yn gyfrinachol. Bydd manylion am y Safleoedd Posib hefyd yn cael eu dosbarthu i randdeiliaid mewnol ac allanol i’w galluogi i gael eu hasesu fel rhan o broses Cynllun Datblygu Lleol Eryri. Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei gynnwys fel rhan o hyn. 

Bydd manylion cyswllt yr holl gynigwyr safle a’u hasiantaethau (ble y bo’n berthnasol) yn cael eu hychwanegu at bas ddata CDLl Eyri.

Bydd yr Awdurdod yn gohebu â’r rhanddeiliaid drwy e-bost oni nodir fel arall. 

Mae’r holl ffurflenni a dogfennau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd iaith ddewisol y cyflwyniad yn cael ei thrin fel iaith ddewisol cyfathrebu.
 

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig